Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 44:10-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd.

11. Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i'r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o'u blaen hwy i'w gwasanaethu hwynt.

12. Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu hanwiredd.

13. Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o'm pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a'u ffieidd‐dra a wnaethant.

14. Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.

15. Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i'm gwasanaethu, ac a safant o'm blaen i offrymu i mi y braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd Iôr:

16. Hwy a ânt i mewn i'm cysegr, a hwy a nesânt at fy mwrdd i'm gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.

17. A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fewn.

18. Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant â dim a baro chwys.

19. A phan elont i'r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i'r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â'u gwisgoedd.

20. Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau.

21. Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i'r cyntedd nesaf i mewn.

22. Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 44