Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A'r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na'r rhai hyn, na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r adeiladaeth.

6. Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na'r rhai isaf ac na'r rhai canol o'r llawr i fyny.

7. A'r mur yr hwn oedd o'r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua'r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd.

8. Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain: ac wele, o flaen y deml yr oedd can cufydd.

9. Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o'r cyntedd nesaf allan.

10. O fewn tewder mur y cyntedd tua'r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr ystafelloedd.

11. A'r ffordd o'u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r gogledd; un hyd â hwynt oeddynt, ac un lled â hwynt: a'u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt.

12. Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua'r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua'r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42