Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 41:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a'm dug i i'r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o'r naill du, ac yn chwe chufydd o led o'r tu arall, fel yr oedd lled y babell.

2. Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.

3. Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a'r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd.

4. Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd o flaen y deml: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y cysegr sancteiddiolaf.

5. Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i'r tŷ.

6. A'r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i'r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ.

7. Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i'r celloedd: oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ: am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd; ac felly y dringid o'r isaf i'r uchaf trwy y ganol.

8. Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch: seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion.

9. A thewder y mur yr hwn oedd i'r gell o'r tu allan, oedd bum cufydd; a'r gweddill oedd le i'r celloedd y rhai oedd o fewn.

10. A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y tŷ o amgylch ogylch.

11. A drysau yr ystlysgell oedd tua'r llannerch weddill; un drws tua'r gogledd, ac un drws tua'r deau: a lled y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch.

12. A'r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua'r gorllewin, oedd ddeg cufydd a thrigain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a'i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain.

13. Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a'r llannerch neilltuol, a'r adeiladaeth, a'i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd.

14. A lled wyneb y tŷ, a'r llannerch neilltuol tua'r dwyrain, oedd gan cufydd.

15. Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o'r tu cefn iddo, a'i ystafelloedd o'r naill du, ac o'r tu arall, yn gan cufydd, gyda'r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd.

16. Y gorsingau, a'r ffenestri cyfyng, a'r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch, ac o'r llawr hyd y ffenestri, a'r ffenestri hefyd a ystyllenasid;

17. Hyd uwchben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau.

18. A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 41