Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:38-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. A'r celloedd a'u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.

39. Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu yma, a dau fwrdd o'r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a'r pech‐aberth, a'r aberth dros gamwedd, arnynt.

40. Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.

41. Pedwar bwrdd oedd o'r tu yma, a phedwar bwrdd o'r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau.

42. A'r pedwar bwrdd i'r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a'r aberth â hwynt.

43. Hefyd yr oedd bachau, o un ddyrnfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.

44. Ac o'r tu allan i'r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a'u hwynebau oedd tua'r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, â'i wyneb tua'r gogledd.

45. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd â'i hwyneb tua'r deau, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth y tŷ.

46. A'r ystafell yr hon sydd â'i hwyneb tua'r gogledd, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesáu at yr Arglwydd i weini iddo.

47. Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongl; a'r allor oedd o flaen y tŷ.

48. Ac efe a'm dug i borth y tŷ, ac a fesurodd bob post i'r porth, yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o'r naill du, a thri chufydd o'r tu arall.

49. Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a'm dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o'r naill du, ac un o'r tu arall.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40