36. Ei ystafelloedd, ei byst, a'i fwâu meini, a'r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled oedd bum cufydd ar hugain.
37. A'i byst oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.
38. A'r celloedd a'u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.
39. Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu yma, a dau fwrdd o'r tu acw, i ladd y poethoffrwm, a'r pechâaberth, a'r aberth dros gamwedd, arnynt.
40. Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.