Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:11-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg.

12. A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o'r naill du, a'r terfyn o'r tu arall yn un cufydd; a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu yma, a chwe chufydd o'r tu acw.

13. Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws.

14. Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, o amgylch ogylch y porth.

15. Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugain.

16. A ffenestri cyfyng oedd i'r ystafelloedd, ac i'w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i'r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.

17. Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i'r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant.

18. A'r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.

19. Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua'r dwyrain a'r gogledd.

20. A'r porth yr hwn oedd â'i wyneb tua'r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a'i led.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40