14. A hwy a neilltuant wŷr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda'r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i'w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.
15. A'r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon‐gog.
16. Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona. Felly y glanhânt y wlad.
17. Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yr ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwytaoch gig, ac yr yfoch waed.
18. Cig y cedyrn a fwytewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear, hyrddod, ŵyn, a bychod, bustych, yn basgedigion Basan oll.
19. Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o'm haberth a aberthais i chwi.
20. Felly y'ch diwellir ar fy mwrdd i â meirch a cherbydau, â gwŷr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd Dduw.
21. A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gânt weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.
22. A thŷ Israel a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt o'r dydd hwnnw allan.
23. Y cenhedloedd hefyd a gânt wybod mai am eu hanwiredd eu hun y caethgludwyd tŷ Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf.
24. Yn ôl eu haflendid eu hun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum â hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt.
25. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr awr hon y dychwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dŷ Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd;
26. Wedi dwyn ohonynt eu gwaradwydd, a'u holl gamweddau a wnaethant i'm herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd.
27. Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a'u casglu hwynt o wledydd eu gelynion, ac y'm sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer;
28. Yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn a'u caethgludais hwynt ymysg y cenhedloedd, ac a'u cesglais hwynt i'w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno.