Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 37:26-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a'u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.

27. A'm tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn Dduw, a hwythau a fyddant i mi yn bobl.

28. A'r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 37