20. A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt;
21. A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a'u casglaf hwynt o amgylch, ac a'u dygaf hwynt i'w tir eu hun;
22. A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth:
23. Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd‐dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o'u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a'u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau.
24. A'm gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a'm deddfau a gadwant ac a wnânt.
25. Trigant hefyd yn y tir a roddais i'm gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a'u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd.
26. Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a'u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
27. A'm tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn Dduw, a hwythau a fyddant i mi yn bobl.
28. A'r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.