11. Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a'n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o'n rhan ni.
12. Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o'ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel.
13. A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o'ch beddau, fy mhobl;
14. Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr Arglwydd a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr Arglwydd.
15. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
16. Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion:
17. A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di.
18. A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt?
19. Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a'u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a'u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.