17. Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef â'u ffordd ac â'u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus.
18. Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef;
19. Ac a'u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt.
20. A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr Arglwydd, ac o'i wlad ef yr aethant allan.
21. Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt.
22. Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid er eich mwyn chwi, tŷ Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch.
23. A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd, medd yr Arglwydd Dduw, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid.
24. Canys mi a'ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd, ac a'ch casglaf chwi o'r holl wledydd, ac a'ch dygaf i'ch tir eich hun.
25. Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi.
26. A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o'ch mewn chwi; a thynnaf y galon garreg o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig.
27. Rhoddaf hefyd fy ysbryd o'ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaethau, a'u gwneuthur.
28. Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i'ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw i chwithau.
29. Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr ŷd, ac a'i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch newyn.
30. Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd.
31. Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a'ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra.
32. Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hysbys i chwi: tŷ Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.
33. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y glanhawyf chwi o'ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd.
34. A'r tir anrheithiedig a goleddir, lle y bu yn anrhaith yng ngolwg pob cyniweirydd.
35. A hwy a ddywedant, Y tir anrheithiedig hwn a aeth fel gardd Eden, a'r dinasoedd anghyfannedd, ac anrheithiedig, a dinistriol, a aethant yn gaerog, ac a gyfanheddir.
36. Felly y cenhedloedd y rhai a weddillir o'ch amgylch, a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn adeiladu y lleoedd dinistriol, ac yn plannu eich mannau anrheithiedig: myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.