Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 36:14-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Am hynny ni fwytei ddynion mwy, ac ni wnei dy genhedloedd mwyach yn amddifaid, medd yr Arglwydd Dduw.

15. Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy, ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i'th genhedloedd syrthio, medd yr Arglwydd Dduw.

16. Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

17. Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef â'u ffordd ac â'u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus.

18. Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef;

19. Ac a'u gwasgerais hwynt ymhlith y cenhedloedd, a hwy a chwalwyd ar hyd y gwledydd; yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl eu gweithredoedd y bernais hwynt.

20. A phan ddaethant at y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd, pan ddywedid wrthynt, Dyma bobl yr Arglwydd, ac o'i wlad ef yr aethant allan.

21. Er hynny arbedais hwynt er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogodd tŷ Israel ymysg y cenhedloedd y rhai yr aethant atynt.

22. Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Nid er eich mwyn chwi, tŷ Israel, yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, ond er mwyn fy enw sanctaidd, yr hwn a halogasoch chwi ymysg y cenhedloedd lle yr aethoch.

23. A mi a sancteiddiaf fy enw mawr, yr hwn a halogwyd ymysg y cenhedloedd, yr hwn a halogasoch chwi yn eu mysg hwynt; fel y gwypo y cenhedloedd mai myfi yw yr Arglwydd, medd yr Arglwydd Dduw, pan ymsancteiddiwyf ynoch o flaen eich llygaid.

24. Canys mi a'ch cymeraf chwi o fysg y cenhedloedd, ac a'ch casglaf chwi o'r holl wledydd, ac a'ch dygaf i'ch tir eich hun.

25. Ac a daenellaf arnoch ddwfr glân, fel y byddoch lân: oddi wrth eich holl frynti, ac oddi wrth eich holl eilunod, y glanhaf chwi.

26. A rhoddaf i chwi galon newydd, ysbryd newydd hefyd a roddaf o'ch mewn chwi; a thynnaf y galon garreg o'ch cnawd chwi, ac mi a roddaf i chwi galon gig.

27. Rhoddaf hefyd fy ysbryd o'ch mewn, a gwnaf i chwi rodio yn fy neddfau, a chadw fy marnedigaethau, a'u gwneuthur.

28. Cewch drigo hefyd yn y tir a roddais i'ch tadau; a byddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw i chwithau.

29. Achubaf chwi hefyd oddi wrth eich holl aflendid: a galwaf am yr ŷd, ac a'i hamlhaf; ac ni roddaf arnoch newyn.

30. Amlhaf hefyd ffrwyth y coed, a chynnyrch y maes, fel na ddygoch mwy waradwydd newyn ymysg y cenhedloedd.

31. Yna y cofiwch eich ffyrdd drygionus, a'ch gweithredoedd nid oeddynt dda, a byddwch yn ffiaidd gennych eich hunain am eich anwireddau ac am eich ffieidd‐dra.

32. Nid er eich mwyn chwi yr ydwyf fi yn gwneuthur hyn, medd yr Arglwydd Dduw; bydded hysbys i chwi: tŷ Israel, gwridwch a chywilyddiwch am eich ffyrdd eich hun.

33. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y glanhawyf chwi o'ch holl anwireddau, y paraf hefyd i chwi gyfanheddu y dinasoedd, ac yr adeiledir yr anghyfaneddleoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 36