Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 36:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Tithau fab dyn, proffwyda wrth fynyddoedd Israel, a dywed, Gwrandewch, fynyddoedd Israel, air yr Arglwydd.

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Oherwydd dywedyd o'r gelyn hyn amdanoch chwi, Aha, aeth yr hen uchelfaon hefyd yn etifeddiaeth i ni:

3. Am hynny proffwyda, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; oherwydd iddynt eich anrheithio, a'ch llyncu o amgylch, i fod ohonoch yn etifeddiaeth i weddill y cenhedloedd, a myned ohonoch yn watwargerdd tafodau, ac yn ogan pobloedd:

4. Am hynny, mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, wrth y diffeithwch anghyfanheddol, ac wrth y dinasoedd gwrthodedig, y rhai a aeth yn ysbail ac yn watwar i'r rhan arall o'r cenhedloedd o'u hamgylch:

5. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Diau yn angerdd fy eiddigedd y lleferais yn erbyn y rhan arall o'r cenhedloedd, ac yn erbyn holl Edom, y rhai a roddasant fy nhir i yn etifeddiaeth iddynt eu hun, â llawenydd eu holl galon, trwy feddwl dirmygus, i'w yrru allan yn ysbail.

6. Am hynny proffwyda am dir Israel, a dywed wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth yr afonydd ac wrth y dyffrynnoedd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele, yn fy eiddigedd ac yn fy llid y lleferais, oherwydd dwyn ohonoch waradwydd y cenhedloedd.

7. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Myfi a dyngais, Diau y dwg y cenhedloedd sydd o'ch amgylch chwi eu gwaradwydd.

8. A chwithau, mynyddoedd Israel, a fwriwch allan eich ceinciau, ac a ddygwch eich ffrwyth i'm pobl Israel; canys agos ydynt ar ddyfod.

9. Canys wele fi atoch, ie, troaf atoch, fel y'ch coledder ac y'ch heuer.

10. Amlhaf ddynion ynoch chwi hefyd, holl dŷ Israel i gyd, fel y cyfanhedder y dinasoedd, ac yr adeilader y diffeithwch.

11. Ie, amlhaf ynoch ddyn ac anifail; a hwy a chwanegant ac a ffrwythant; a gwnaf i chwi breswylio fel yr oeddech gynt; ie, gwnaf i chwi well nag yn eich dechreuad, tel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

12. Ie, gwnaf i ddynion rodio arnoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a'th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac ni ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddifaid mwy.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd eu bod yn dywedyd wrthych, Yr wyt ti yn difa dynion, ac yn gwneuthur dy genhedloedd yn amddifaid:

14. Am hynny ni fwytei ddynion mwy, ac ni wnei dy genhedloedd mwyach yn amddifaid, medd yr Arglwydd Dduw.

15. Ac ni adawaf glywed gwaradwydd y cenhedloedd ynot ti mwy, ni ddygi chwaith warth y cenhedloedd mwyach, ac ni wnei mwy i'th genhedloedd syrthio, medd yr Arglwydd Dduw.

16. Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

17. Ha fab dyn, pan oedd tŷ Israel yn trigo yn eu tir eu hun, hwy a'i halogasant ef â'u ffordd ac â'u gweithredoedd eu hun: eu ffordd ydoedd ger fy mron i fel aflendid gwraig fisglwyfus.

18. Yna y tywelltais fy llid arnynt, am y gwaed a dywalltasent ar y tir, ac am eu delwau trwy y rhai yr halogasent ef;

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 36