11. Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o'th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y'm hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y'th farnwyf di.
12. A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i'w difa.
13. Ymfawrygasoch hefyd â'ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i'm herbyn: mi a'u clywais.
14. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a'th wnaf di yn anghyfannedd.
15. Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.