Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 35:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn,

3. A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i'th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i'th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch.

4. Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.

5. Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt:

6. Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, mi a'th wnaf di yn waed, a gwaed a'th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a'th ddilyn.

7. Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a'r hwn a ddychwelo.

8. Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â'i laddedigion: yn dy fryniau, a'th ddyffrynnoedd, a'th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â'r cleddyf.

9. Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a'th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

10. Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a'r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a'i meddiannwn; er bod yr Arglwydd yno:

11. Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o'th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y'm hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y'th farnwyf di.

12. A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i'w difa.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 35