1. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2. Proffwyda, fab dyn, yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd?
3. Y braster a fwytewch, a'r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd.
4. Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a'r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb.
5. A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt.
6. Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt.
7. Am hynny, fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd.
8. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes, o eisiau bugail, ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a'u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd:
9. Am hynny, O fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd.
10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio â phorthi y praidd; a'r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o'u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.