Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:24-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Yno y mae Elam a'i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i'r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

25. Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â'i holl liaws; a'i beddau o'i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd â'r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef.

26. Yno y mae Mesech, Tubal, a'i holl liaws; a'i beddau o amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw.

27. Ac ni orweddant gyda'r cedyrn a syrthiasant o'r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern â'u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i'r cedyrn yn nhir y rhai byw.

28. A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf.

29. Yno y mae Edom, a'i brenhinoedd, a'i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â'u cadernid gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf: hwy a orweddant gyda'r rhai dienwaededig, a chyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

30. Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a'r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda'r lladdedigion; gyda'u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

31. Pharo a'u gwêl hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a'i holl lu wedi eu lladd â'r cleddyf, medd yr Arglwydd Dduw.

32. Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i'w holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32