Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 30:8-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi.

9. Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod.

10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon.

11. Efe a'i bobl gydag ef, y rhai trawsion o'r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd.

12. Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a'i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr Arglwydd a'i dywedodd.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft.

14. Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No.

15. A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No.

16. A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd.

17. Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.

18. Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a'i cuddia hi, a'i merched a ânt i gaethiwed.

19. Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

20. Ac yn y mis cyntaf o'r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

21. Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i'w gryfhau i ddal y cleddyf.

22. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a'r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i'r cleddyf syrthio o'i law ef.

23. A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

24. A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o'i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig.

25. Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 30