Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 30:4-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau.

5. Ethiopia, a Libya, a Lydia, a'u gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf.

6. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Arglwydd Dduw.

7. A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig.

8. A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi.

9. Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod.

10. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon.

11. Efe a'i bobl gydag ef, y rhai trawsion o'r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd.

12. Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a'i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr Arglwydd a'i dywedodd.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft.

14. Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No.

15. A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No.

16. A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd.

17. Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.

18. Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a'i cuddia hi, a'i merched a ânt i gaethiwed.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 30