Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 29:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a'i gwneuthum.

10. Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia.

11. Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd.

12. A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

13. Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt.

14. A dychwelaf gaethiwed yr Aifft, ie, dychwelaf hwynt i dir Pathros, i dir eu preswylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel.

15. Isaf fydd o'r breniniaethau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd; canys lleihaf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd.

16. Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau: eithr cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

17. Ac yn y mis cyntaf o'r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

18. Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i'w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddinoethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i'w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:

19. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i'w lu ef.

20. Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd Dduw.

21. Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 29