Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 28:11-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

12. Cyfod, fab dyn, alarnad am frenin Tyrus, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ti seliwr nifer, llawn o ddoethineb, a chyflawn o degwch,

13. Ti a fuost yn Eden, gardd Duw: pob maen gwerthfawr a'th orchuddiai, sardius, topas, ac adamant, beryl, onics, a iasbis, saffir, rubi, a smaragdus, ac aur: gwaith dy dympanau a'th bibellau a baratowyd ynot ar y dydd y'th grewyd.

14. Ceriwb eneiniog ydwyt yn gorchuddio; ac felly y'th roddaswn; oeddit ar sanctaidd fynydd Duw: ymrodiaist yng nghanol y cerrig tanllyd.

15. Perffaith oeddit ti yn dy ffyrdd er y dydd y'th grewyd, hyd oni chaed ynot anwiredd.

16. Yn amlder dy farchnadaeth y llanwasant dy ganol â thrais, a thi a bechaist: am hynny y'th halogaf allan o fynydd Duw, ac y'th ddifethaf di, geriwb yn gorchuddio, o ganol y cerrig tanllyd.

17. Balchïodd dy galon yn dy degwch, llygraist dy ddoethineb oherwydd dy loywder: bwriaf di i'r llawr; o flaen brenhinoedd y'th osodaf, fel yr edrychont arnat.

18. Trwy amlder dy anwiredd, ag anwiredd dy farchnadaeth, yr halogaist dy gysegroedd: am hynny y dygaf dân allan o'th ganol, hwnnw a'th ysa; a gwnaf di yn lludw ar y ddaear yng ngolwg pawb a'th welant.

19. Y rhai a'th adwaenant oll ymysg y bobloedd, a synnant o'th achos: dychryn fyddi, ac ni byddi byth.

20. Yna gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

21. Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Sidon, a phroffwyda yn ei herbyn hi,

22. A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i'th erbyn, Sidon; fel y'm gogonedder yn dy ganol, ac y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf ynddi farnedigaethau, ac y'm sancteiddier ynddi.

23. Canys anfonaf iddi haint, a gwaed i'w heolydd; a bernir yr archolledig o'i mewn â'r cleddyf, yr hwn fydd arni oddi amgylch; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

24. Ac ni bydd mwy i dŷ Israel, o'r holl rai o'u hamgylch a'r a'u dirmygasant, ysbyddaden bigog, na draenen ofidus; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

25. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan gasglwyf dŷ Israel o fysg y bobloedd y rhai y gwasgarwyd hwy yn eu plith, ac yr ymsancteiddiwyf ynddynt yng ngolwg y cenhedloedd; yna y trigant yn eu gwlad a roddais i'm gwas Jacob.

26. Ie, trigant ynddi yn ddiogel, ac adeiladant dai, a phlannant winllannoedd; a phreswyliant mewn diogelwch, pan wnelwyf farnedigaethau â'r rhai oll a'u dirmygant hwy o'u hamgylch; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 28