Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 27:23-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Haran, a Channe, ac Eden, marchnadyddion Seba, Assur, a Chilmad, oedd yn marchnata â thi.

24. Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a'u gwneuthur o gedrwydd, ymysg dy farchnadaeth.

25. Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd.

26. Y rhai a'th rwyfasant a'th ddygasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a'th ddrylliodd yng nghanol y moroedd.

27. Dy olud, a'th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy forwyr, a'th feistriaid llongau, cyweirwyr dy agennau, a marchnadwyr dy farchnad, a'th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot, a'th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiant yng nghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di.

28. Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau, y tonnau a gyffroant.

29. Yna pob rhwyfwr, y morwyr, holl lywyddion y moroedd, a ddisgynnant o'u llongau, ar y tir y safant;

30. A gwnânt glywed eu llef amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lwch ar eu pennau, ac ymdrybaeddant yn y lludw.

31. A hwy a'u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat, ac a ymwregysant â sachliain, ac a wylant amdanat â chwerw alar, mewn chwerwedd calon.

32. A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan, a galarant amdanat, gan ddywedyd, Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr!

33. Pan ddelai dy farchnadaeth o'r moroedd, diwellit bobloedd lawer; ag amlder dy olud a'th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear.

34. Y pryd y'th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd, dy farchnad a'th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 27