11. Meibion Arfad oedd gyda'th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a'r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.
12. Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau.
13. Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres.
14. Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod.
15. Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti.
16. Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o'th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau.