1. Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
2. Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus;
3. A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch.
4. Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch.
5. Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.
6. Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.
7. Lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.
8. Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr.
9. Henuriaid Gebal a'i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a'u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad.