Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 27:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

2. Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus;

3. A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch.

4. Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch.

5. Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.

6. Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.

7. Lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.

8. Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr.

9. Henuriaid Gebal a'i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a'u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad.

10. Y Persiaid, a'r Ludiaid, a'r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch.

11. Meibion Arfad oedd gyda'th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a'r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.

12. Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau.

13. Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres.

14. Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 27