Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 22:4-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y'th wneuthum yn warth i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wledydd.

5. Y rhai agos a'r rhai pell oddi wrthyt a'th watwarant, yr halogedig o enw, ac aml dy drallod.

6. Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed.

7. Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus â'r dieithr o'th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a'r weddw.

8. Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau.

9. Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnânt ysgelerder o'th fewn.

10. Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot.

11. Gwnâi ŵr hefyd ffieidd‐dra â gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad.

12. Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr Arglwydd Dduw.

13. Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd‐dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o'th fewn.

14. A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi? myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.

15. Canys gwasgaraf di ymysg y cenhedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i'th aflendid ddarfod allan ohonot.

16. A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngŵydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

17. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

18. Ha fab dyn, tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt.

19. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am eich bod chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem.

20. Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i'w toddi; felly yn fy llid a'm dig y casglaf chwi, ac a'ch gadawaf yno, ac a'ch toddaf.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 22