27. Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.
28. Ei phroffwydi hefyd a'u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a'r Arglwydd heb ddywedyd.
29. Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a'r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn.
30. Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o'm blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais.
31. Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.