19. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am eich bod chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem.
20. Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i'w toddi; felly yn fy llid a'm dig y casglaf chwi, ac a'ch gadawaf yno, ac a'ch toddaf.
21. Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi.
22. Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.
23. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
24. Dywed wrthi hi, fab dyn, Ti yw y tir sydd heb ei buro, heb lawio arno yn nydd dicter.
25. Cydfradwriaeth ei phroffwydi o'i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o'i mewn.
26. Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a'r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt.
27. Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw.
28. Ei phroffwydi hefyd a'u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a'r Arglwydd heb ddywedyd.
29. Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a'r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn.
30. Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o'm blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais.