1. Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,
2. Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd‐dra.
3. Dywed dithau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o'i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi.
4. Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y'th wneuthum yn warth i'r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i'r holl wledydd.
5. Y rhai agos a'r rhai pell oddi wrthyt a'th watwarant, yr halogedig o enw, ac aml dy drallod.
6. Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed.
7. Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus â'r dieithr o'th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a'r weddw.
8. Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau.
9. Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnânt ysgelerder o'th fewn.
10. Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot.
11. Gwnâi ŵr hefyd ffieidd‐dra â gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad.
12. Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr Arglwydd Dduw.
13. Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd‐dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o'th fewn.
14. A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi? myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwnaf.