Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:9-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Eto gwneuthum er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysg; yng ngŵydd pa rai yr ymhysbysais iddynt hwy, wrth eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft.

10. Am hynny y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, ac a'u dygais hwynt i'r anialwch.

11. A rhoddais iddynt fy neddfau, a hysbysais iddynt fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwna hwynt.

12. Rhoddais hefyd iddynt fy Sabothau, i fod yn arwydd rhyngof fi a hwynt, a wybod mai myfi yw yr Arglwydd a'u sancteiddiodd hwynt.

13. Er hynny tŷ Israel a wrthryfelasant i'm herbyn yn yr anialwch: ni rodiasant yn fy neddfau, ond diystyrasant fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwnelo hwynt; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr. Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch, i'w difetha hwynt.

14. Eto gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd, y rhai y dygais hwynt allan yn eu gŵydd.

15. Ac eto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch, na ddygwn hwynt i'r wlad a roddaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl; honno yw gogoniant yr holl wledydd:

16. Oherwydd iddynt ddiystyru fy marnedigaethau, ac na rodiasant yn fy neddfau, ond halogi fy Sabothau: canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heilunod.

17. Eto tosturiodd fy llygaid wrthynt rhag eu dinistrio, ac ni wneuthum ddiben amdanynt yn yr anialwch.

18. Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch, Na rodiwch yn neddfau eich tadau, ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt, nac ymhalogwch chwaith â'u heilunod hwynt.

19. Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: rhodiwch yn fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt:

20. Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau, i wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20