40. Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym mynydd uchelder Israel, medd yr Arglwydd Dduw, yno y'm gwasanaetha holl dŷ Israel, cwbl o'r wlad: yno y byddaf fodlon iddynt; ac yno y gofynnaf eich offrymau, a blaenffrwyth eich offrymau, gyda'ch holl sanctaidd bethau.
41. Byddaf fodlon i chwi gyda'ch arogl peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a'ch casglu chwi o'r tiroedd y'ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd.
42. Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i'r tir y tyngais am ei roddi i'ch tadau.
43. Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a'ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch.
44. A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.
45. Daeth drachefn air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
46. Gosod dy wyneb, fab dyn, tua'r deau, ie, difera eiriau tua'r deau, a phroffwyda yn erbyn coed maes y deau;
47. A dywed wrth goed y deau, Gwrando air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cynnau ynot ti dân, ac efe a ysa ynot ti bob pren ir, a phob pren sych: ffagl y fflam ni ddiffydd, a'r holl wynebau o'r deau hyd y gogledd a losgir ynddo.
48. A phob cnawd a welant mai myfi yr Arglwydd a'i cyneuais: nis diffoddir ef.
49. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, y maent hwy yn dywedyd amdanaf, Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu?