Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:33-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch.

34. A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd, a chasglaf chwi o'r gwledydd y rhai y'ch gwasgarwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig.

35. A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb.

36. Fel yr ymddadleuais â'ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf â chwithau, medd yr Arglwydd Dduw.

37. A gwnaf i chwi fyned dan y wialen, a dygaf chwi i rwym y cyfamod.

38. A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar, a'r rhai a droseddant i'm herbyn: dygaf hwynt o wlad eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddeuant: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

39. Chwithau, tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ôl hyn hefyd, oni wrandewch arnaf fi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â'ch offrymau, ac â'ch eilunod.

40. Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym mynydd uchelder Israel, medd yr Arglwydd Dduw, yno y'm gwasanaetha holl dŷ Israel, cwbl o'r wlad: yno y byddaf fodlon iddynt; ac yno y gofynnaf eich offrymau, a blaenffrwyth eich offrymau, gyda'ch holl sanctaidd bethau.

41. Byddaf fodlon i chwi gyda'ch arogl peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a'ch casglu chwi o'r tiroedd y'ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd.

42. Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i'r tir y tyngais am ei roddi i'ch tadau.

43. Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a'ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch.

44. A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd Dduw.

45. Daeth drachefn air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

46. Gosod dy wyneb, fab dyn, tua'r deau, ie, difera eiriau tua'r deau, a phroffwyda yn erbyn coed maes y deau;

47. A dywed wrth goed y deau, Gwrando air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cynnau ynot ti dân, ac efe a ysa ynot ti bob pren ir, a phob pren sych: ffagl y fflam ni ddiffydd, a'r holl wynebau o'r deau hyd y gogledd a losgir ynddo.

48. A phob cnawd a welant mai myfi yr Arglwydd a'i cyneuais: nis diffoddir ef.

49. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, y maent hwy yn dywedyd amdanaf, Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu?

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20