Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 20:20-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau, i wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

21. Y meibion hwythau a wrthryfelasant i'm herbyn; yn fy neddfau ni rodiasant, a'm barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a'u gwnelo hwynt: halogasant fy Sabothau: yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt, i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch.

22. Eto troais heibio fy llaw, a gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd.

23. Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu hwynt ar hyd y gwledydd;

24. Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabothau hefyd a halogasent, a'u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau.

25. Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt:

26. Ac a'u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr Arglwydd.

27. Am hynny, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eto yn hyn y'm cablodd eich tadau, gan wneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn.

28. Canys dygais hwynt i'r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod‐offrymau.

29. Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.

30. Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd‐dra hwynt?

31. Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn â mi, tŷ Israel? Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymofynnir â mi gennych.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 20