1. Cymer dithau alarnad am dywysogion Israel,
2. A dywed, Beth yw dy fam? llewes: gorweddodd ymysg llewod, yng nghanol y llewod ieuainc y maethodd hi ei chenawon.
3. A hi a ddug i fyny un o'i chenawon: efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion.
4. Yna y cenhedloedd a glywsant sôn amdano; daliwyd ef yn eu ffos hwynt, a dygasant ef mewn cadwynau i dir yr Aifft.
5. A phan welodd iddi ddisgwyl, a darfod am ei gobaith, hi a gymerodd un arall o'i chenawon, ac a'i gwnaeth ef yn llew ieuanc.
6. Yntau a dramwyodd ymysg y llewod; efe a aeth yn llew ieuanc, ac a ddysgodd ysglyfaethu ysglyfaeth; bwytaodd ddynion.
7. Adnabu hefyd eu gweddwon hwynt, a'u dinasoedd a anrheithiodd efe; ie, anrheithiwyd y tir a'i gyflawnder gan lais ei ruad ef.
8. Yna y cenhedloedd a ymosodasant yn ei erbyn ef o amgylch o'r taleithiau, ac a daenasant eu rhwyd arno; ac efe a ddaliwyd yn eu ffos hwynt.