Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:6-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Heb fwyta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymydog, na nesáu at wraig fisglwyfus,

7. Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wystl i'r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais, ei fara a roddodd i'r newynog, ac a ddilladodd y noeth,

8. Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr.

9. Yn fy neddfau y rhodiodd, a'm barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr Arglwydd Dduw.

10. Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i'r un o'r pethau hyn,

11. Ac ni wna yr un o'r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwyty, a gwraig ei gymydog a haloga,

12. Yr anghenus a'r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra,

13. Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.

14. Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly,

15. Ar y mynyddoedd ni fwyty, a'i lygaid ni chyfyd at eilunod tŷ Israel, ni haloga wraig ei gymydog,

16. Ni orthryma neb chwaith, ni atal wystl, ac ni threisia drais, ei fara a rydd i'r newynog, a'r noeth a ddillada,

17. Ni thry ei law oddi wrth yr anghenog, usuriaeth na llog ni chymer, fy marnau a wna, yn fy neddfau y rhodia: hwnnw ni bydd farw am anwiredd ei dad; gan fyw y bydd efe byw.

18. Ei dad, am orthrymu yn dost, a threisio ei frawd trwy orthrech, a gwneuthur yr hyn nid oedd dda ymysg ei bobl, wele, efe a fydd marw yn ei anwiredd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18