Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:21-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ond os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw; ni bydd efe marw.

22. Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth: yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw.

23. Gan ewyllysio a ewyllysiwn i farw yr annuwiol, medd yr Arglwydd Dduw, ac na ddychwelai oddi wrth ei ffyrdd, a byw?

24. Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.

25. Eto chwi a ddywedwch, Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd. Gwrandewch yr awr hon, tŷ Israel, onid yw gymwys fy ffordd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys?

26. Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a marw ynddynt; am ei anwiredd a wnaeth y bydd efe marw.

27. A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid.

28. Am iddo ystyried, a dychwelyd oddi wrth ei holl gamweddau y rhai a wnaeth, gan fyw y bydd byw, ni bydd marw.

29. Eto tŷ Israel a ddywedant, Nid cymwys yw ffordd yr Arglwydd. Tŷ Israel, onid cymwys fy ffyrdd i? onid eich ffyrdd chwi nid ydynt gymwys?

30. Am hynny barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch, a throwch oddi wrth eich holl gamweddau; fel na byddo anwiredd yn dramgwydd i chwi.

31. Bwriwch oddi wrthych eich holl gamweddau y camweddasoch ynddynt, a gwnewch i chwi galon newydd, ac ysbryd newydd: canys paham, tŷ Israel, y byddwch feirw?

32. Canys nid oes ewyllys gennyf i farwolaeth y marw, medd yr Arglwydd Dduw. Dychwelwch gan hynny, a byddwch fyw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18