Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2. Paham gennych arferu y ddihareb hon am dir Israel, gan ddywedyd, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod?

3. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni bydd i chwi mwy arferu y ddihareb hon yn Israel.

4. Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.

5. Canys os bydd gŵr yn gyfiawn, ac yn gwneuthur barn a chyfiawnder,

6. Heb fwyta ar y mynyddoedd, na chyfodi ei lygaid at eilunod tŷ Israel, ac heb halogi gwraig ei gymydog, na nesáu at wraig fisglwyfus,

7. Na gorthrymu neb, ond a roddes ei wystl i'r dyledwr yn ei ôl, ni threisiodd drais, ei fara a roddodd i'r newynog, ac a ddilladodd y noeth,

8. Ni roddes ar usuriaeth, ac ni chymerodd ychwaneg, ei law a dynnodd yn ei hôl oddi wrth anwiredd, gwir farn a wnaeth rhwng gŵr a gŵr.

9. Yn fy neddfau y rhodiodd, a'm barnedigaethau a gadwodd, i wneuthur gwirionedd: cyfiawn yw; gan fyw efe a fydd byw, medd yr Arglwydd Dduw.

10. Os cenhedla efe fab yn lleidr, ac yn tywallt gwaed, ac a wna gyffelyb i'r un o'r pethau hyn,

11. Ac ni wna yr un o'r pethau hynny, ond ar y mynyddoedd y bwyty, a gwraig ei gymydog a haloga,

12. Yr anghenus a'r tlawd a orthryma, trais a dreisia, gwystl ni rydd drachefn, ac at eilunod y cyfyd ei lygaid, a wnaeth ffieidd‐dra,

13. Ar usuriaeth y rhoddes, ac ychwaneg a gymerth; gan hynny a fydd efe byw? Ni bydd byw: gwnaeth yr holl ffieidd‐dra hyn; gan farw y bydd farw; ei waed a fydd arno ei hun.

14. Ac wele, os cenhedla fab a wêl holl bechodau ei dad y rhai a wnaeth efe, ac a ystyria, ac ni wna felly,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18