Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:47-59 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

47. Eto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt, ac nid yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt y gwnaethost: megis petai hynny ychydig bach, ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd.

48. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni wnaeth Sodom dy chwaer, na hi na'i merched, fel y gwnaethost ti a'th ferched.

49. Wele, hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodom, Balchder, digonedd bara, ac amlder o seguryd oedd ynddi ac yn ei merched, ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a'r tlawd.

50. A hwy a ymddyrchafasant, ac a wnaethant ffieidd‐dra o'm blaen i: am hynny y symudais hwynt, fel y gwelais yn dda.

51. Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di; ond tydi a amlheaist dy ffieidd‐dra yn fwy na hwynt, ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd‐dra a wnaethost.

52. Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd, dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt: cyfiawnach ydynt na thi: cywilyddia dithau, a dwg dy waradwydd, gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd.

53. Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a'i merched, a chaethiwed Samaria a'i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a'th ferched yn eu canol hwynt:

54. Fel y dygech dy warth, ac y'th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt.

55. Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodom a'i merched, i'w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a'i merched i'w hen gyflwr, yna tithau a'th ferched a ddychwelwch i'ch hen gyflwr.

56. Canys nid oedd mo'r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder,

57. Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a'r holl rai o'i hamgylch, merched y Philistiaid, y rhai a'th ddiystyrant o bob parth.

58. Dy ysgelerder, a'th ffieidd‐dra hefyd, ti a'u dygaist hwynt, medd yr Arglwydd.

59. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyraist lw, i ddiddymu'r cyfamod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16