Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 16:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Ha fab dyn, gwna i Jerwsalem adnabod ei ffieidd‐dra,

3. A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerwsalem; Dy drigfa a'th enedigaeth sydd o wlad Canaan: dy dad oedd Amoriad, a'th fam yn Hittees.

4. Ac am dy enedigaeth, ar y dydd y'th anwyd ni thorrwyd dy fogail, ac mewn dwfr ni'th olchwyd i'th feddalhau: ni'th gyweiriwyd chwaith â halen, ac ni'th rwymwyd â rhwymyn.

5. Ni thosturiodd llygad wrthyt, i wneuthur i ti un o hyn, i dosturio wrthyt; ond ar wyneb y maes y'th daflwyd, i ffieiddio dy einioes, ar y dydd y'th aned.

6. A phan dramwyais heibio i ti, a'th weled yn ymdrybaeddu yn dy waed, dywedais wrthyt yn dy waed, Bydd fyw; ie, dywedais wrthyt yn dy waed, Bydd fyw.

7. Yn fyrddiwn y'th wneuthum fel gwellt y maes, a thi a gynyddaist ac a aethost yn fawr, ac a ddaethost i harddwch godidog: dy fronnau a chwyddasant, a'th wallt a dyfodd, a thi yn llom ac yn noeth o'r blaen.

8. Pan euthum heibio i ti, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchowgrwydd: yna lledais fy adain drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd i ti, ac euthum mewn cyfamod â thi, medd yr Arglwydd Dduw, a thi a aethost yn eiddof fi.

9. Yna mi a'th olchais â dwfr; ie, golchais dy waed oddi wrthyt, ac irais di ag olew.

10. Mi a'th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd, rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch, a gwregysais di â lliain main, a gorchuddiais di â sidan.

11. Mi a'th herddais hefyd â harddwch, a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf.

12. Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen, a thlysau wrth dy glustiau, a choron hardd am dy ben.

13. Felly y'th harddwyd ag aur ac arian; a'th wisg oedd liain main, a sidan, a gwaith edau a nodwydd; peilliaid, a mêl, ac olew a fwyteit: teg hefyd odiaeth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 16