1. Yna y daeth ataf wŷr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o'm blaen.
2. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
3. Y gwŷr hyn, O fab dyn, a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau, ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau: gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi?
4. Am hynny ymddiddan â hwynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pob un o dŷ Israel, yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at y proffwyd; myfi yr Arglwydd a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amlder ei eilunod,
5. I ddal tŷ Israel yn eu calonnau, am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod.
6. Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod, a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd‐dra.