Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 13:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

10. O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru.

11. Dywed wrth y rhai a'i priddant â phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a'i rhwyga.

12. Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthych, Mae y clai â'r hwn y priddasoch ef?

13. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Minnau a'i rhwygaf â gwynt tymhestlog yn fy llid; a churlaw fydd yn fy nig, a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd, i'w ddifetha.

14. Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru, ac a'i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

15. Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a'i priddasant â phridd heb dymheru; a dywedaf wrthych, Y pared nid yw, na'r rhai a'i priddasant:

16. Sef proffwydi Israel, y rhai a broffwydant am Jerwsalem, ac a welant iddi weledigaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr Arglwydd Dduw.

17. Tithau fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a broffwydant o'u calon eu hun; a phroffwyda yn eu herbyn hwynt,

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 13