19. Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dameidiau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandawent gelwydd?
20. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, â'r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg.
21. Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o'ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
22. Am dristáu calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o'i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes;
23. Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o'ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.