Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 13:17-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Tithau fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a broffwydant o'u calon eu hun; a phroffwyda yn eu herbyn hwynt,

18. A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl, a'r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch?

19. Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dameidiau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandawent gelwydd?

20. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, â'r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg.

21. Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o'ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

22. Am dristáu calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o'i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes;

23. Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o'ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 13