11. Dywed, Eich arwydd chwi ydwyf fi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy: mewn caethglud yr ânt i gaethiwed.
12. A'r tywysog yr hwn sydd yn eu canol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll, ac a â allan: cloddiant trwy y mur, i ddwyn allan trwyddo: ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear â'i lygaid.
13. A mi a daenaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd: a dygaf ef i Babilon, tir y Caldeaid; ac ni wêl efe hi, eto yno y bydd efe farw.
14. A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
15. A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu ar hyd y gwledydd.
16. Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd‐dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd.
17. Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
18. Ha fab dyn, bwytei dy fara dan grynu, a'th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal:
19. A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytânt mewn gofal, a'u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o'i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi.
20. A'r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir, a'r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd.
21. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,