1. A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2. Trigo yr wyt ti, fab dyn, yng nghanol tŷ gwrthryfelgar, y rhai y mae llygaid iddynt i weled, ac ni welant; clustiau iddynt i glywed, ac ni chlywant: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.
3. A thithau, fab dyn, gwna i ti offer caethglud, a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt; ie, muda o'th le dy hun i le arall yng ngŵydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar.
4. A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngŵydd eu llygaid, fel dodrefn caethglud: a dos allan yn yr hwyr yng ngŵydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaethglud.
5. Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur, a dwg allan trwy hwnnw.
6. Ar dy ysgwydd y dygi yng ngŵydd eu llygaid hwynt, yn y tywyll y dygi allan: dy wyneb a guddi, fel na welych y ddaear: canys yn arwydd y'th roddais i dŷ Israel.
7. Ac mi a wneuthum felly fel y'm gorchmynnwyd: dygais fy offer allan liw dydd, fel offer caethglud; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur â'm llaw: yn y tywyll y dygais allan, ar fy ysgwydd y dygais o flaen eu llygaid hwynt.
8. A'r bore y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
9. Ha fab dyn, oni ddywedodd tŷ Israel, y tŷ gwrthryfelgar, wrthyt, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur?
10. Dywed di wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, I'r tywysog yn Jerwsalem y mae y baich hwn, ac i holl dŷ Israel y rhai sydd yn eu mysg.