Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 10:16-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt.

17. Safent, pan safent hwythau; a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt.

18. Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid.

19. A'r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

20. Dyma y peth byw a welais dan Dduw Israel, wrth afon Chebar: a gwybûm mai y ceriwbiaid oeddynt.

21. Pedwar wyneb oedd i bob un, a phedair adain i bob un, a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd.

22. Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerddent bob un yn union rhag ei wyneb.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 10