Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 10:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna yr edrychais, ac wele yn y ffurfafen, yr hon oedd uwchben y ceriwbiaid, megis maen saffir, fel dull cyffelybrwydd gorseddfa, a welid arnynt hwy.

2. Ac efe a lefarodd wrth y gŵr a wisgasid â lliain, ac a ddywedodd, Dos i mewn rhwng yr olwynion, hyd dan y ceriwb, a llanw dy ddwylo o farwor tanllyd oddi rhwng y ceriwbiaid, a thaena ar y ddinas. Ac efe a aeth o flaen fy llygaid.

3. A'r ceriwbiaid oedd yn sefyll o du deau y tŷ, pan aeth y gŵr i mewn; a'r cwmwl a lanwodd y cyntedd nesaf i mewn.

4. Yna y cyfododd gogoniant yr Arglwydd oddi ar y ceriwb, ac a safodd oddi ar riniog y tŷ; a'r tŷ a lanwyd â'r cwmwl, a llanwyd y cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr Arglwydd.

5. A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan, fel sŵn Duw Hollalluog pan lefarai.

6. Bu hefyd, wedi iddo orchymyn i'r gŵr a wisgasid â lliain, gan ddywedyd, Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y ceriwbiaid; fyned ohono ef, a sefyll wrth yr olwynion.

7. Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i'r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid, ac a gymerth, ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid â lliain: yntau a'i cymerodd, ac a aeth allan.

8. A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd.

9. Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl.

10. A'u gwelediad, un wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.

11. Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent; ni throent pan gerddent, ond lle yr edrychai y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent.

12. Eu holl gnawd hefyd, a'u cefnau, a'u dwylo, a'u hadenydd, a'r olwynion, oedd yn llawn llygaid oddi amgylch; sef yr olwynion oedd iddynt ill pedwar.

13. Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 10