Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 1:8-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a'u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar.

9. Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb.

10. Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o'r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar.

11. Dyma eu hwynebau hwynt; a'u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â'i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff.

12. Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i'r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent.

13. Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.

14. Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.

15. Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda'i bedwar wyneb.

16. Dull yr olwynion a'u gwaith oedd fel lliw beryl: a'r un dull oedd iddynt ill pedair; a'u gwedd hwynt a'u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.

17. Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent.

18. Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a'u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar.

19. A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion.

20. I'r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned; a'r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.

21. Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.

22. Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd.

23. A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union, y naill tuag at y llall: dwy i bob un yn eu cuddio o'r naill du, a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o'r tu arall.

24. A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Hollalluog, pan gerddent: sŵn lleferydd, fel sŵn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 1