11. Dyma eu hwynebau hwynt; a'u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â'i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff.
12. Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i'r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent.
13. Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.
14. Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.
15. Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda'i bedwar wyneb.
16. Dull yr olwynion a'u gwaith oedd fel lliw beryl: a'r un dull oedd iddynt ill pedair; a'u gwedd hwynt a'u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.
17. Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent.
18. Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a'u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar.
19. A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion.