1. Adarfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o'r mis, (a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar,) agoryd y nefoedd, a gwelwn weledigaethau Duw.
2. Yn y pumed dydd o'r mis, honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin,
3. Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur at Eseciel yr offeiriad, mab Busi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr Arglwydd arno ef.
4. Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o'r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o'i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr.
5. Hefyd o'i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt.
6. A phedwar wyneb i bob un, a phedair adain i bob un ohonynt.
7. A'u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw.
8. Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a'u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar.
9. Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb.
10. Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o'r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar.
11. Dyma eu hwynebau hwynt; a'u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â'i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff.